Eisteddfod Blwyddyn 7

Ddydd Mawrth, Chwefror 28ain, cynhaliwyd ein heisteddfod ryng-dŷ blwyddyn 7 unwaith eto. Gwelsom amrywiaeth eang o gystadlaethau ar y llwyfan, yn amrywio o gystadlaethau canu ac offerynnol i gyd-adrodd. Yn ogystal, gosodwyd tasgau gwaith cartref gan wahanol bynciau, a rhaid tynnu sylw yn benodol at bawb a fu’n cystadlu yn y coginio Ffrengig ac Almaenig – roedd y cwbl yn flasus iawn!

Uchafbwynt y diwrnod oedd seremoni draddodiadol y gadair a’r goron. Llongyfarchiadau i Seren am ennill cystadleuaeth y gadair am ysgrifennu chwedl wreiddiol ac i Daniel am gipio’r goron yn ogystal â chystadleuaeth medal dysgwr Cymraeg.

Enillydd y dydd gyda sgôr drawiadol o 328 pwynt oedd tŷ Llugwy, a byddwn yn gweld eu henw ar darian yr Eisteddfod am y tro cyntaf erioed!

Daeth y diwrnod i ben gyda’n gwestai arbennig a’n cyn-ddisgybl, Alistair James, yn canu Yma o Hyd ac Anthem Genedlaethol Cymru.

CY