Goroeswr yr Holocost yn Rhannu ei Stori

Ddydd Llun 30 Ionawr cafodd myfyrwyr Hanes Blwyddyn 13 gyfle i wrando ar sgwrs gan Henry Schachter, a fu fyw trwy'r Holocost.

Gwrandawodd y myfyrwyr ar Henry yn siarad am sut y newidiwyd ei fywyd teuluol yn yr Almaen am byth ar ôl i’r Natsïaid ddod i rym yn yr Almaen ym 1933, a sut nad oedd gan ei fam unrhyw ddewis ond ei anfon i rywle y credai hi oedd yn lle diogel, Ffrainc, pan oedd yn ddim mwy na 5 oed. Collodd Henry ei fam a'i dad yn ystod yr Holocost, yn ogystal â llawer o berthnasau.

Braint wirioneddol oedd cael gwrando ar stori Henry, a darlledwyd rhannau o’r sgwrs ar ITV Cymru yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Roedd ein disgyblion Chweched Dosbarth yn glod mawr iddyn nhw eu hunain ac i'r ysgol ac fe wnaethant i gyd elwa'n fawr o'r sgwrs.

CY