Bwyd, Hwyl a Sbri Nadoligaidd

Gofynnwyd i grŵp Blwyddyn 11 TGAU Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant fynychu cyfarfod Nadolig i oedolion hŷn yn Eglwys Fethodistaidd Hen Golwyn ar ddydd Gwener 9 Rhagfyr 2022. Trefnwyd y digwyddiad hwn gan Dîm Llesiant Conwy. 

Gwirfoddolodd y merched am y prynhawn gan osod byrddau a chadeiriau, dosbarthu chwileiriau, rhedeg ac ymuno yn y sesiwn Bingo. Yn bwysicaf oll, eisteddodd y grŵp a sgwrsio â'r oedolion hŷn a fynychodd y digwyddiad. Dywedodd yr athrawes Myfanwy Wilson, “Roedd yn wych gweld digwyddiad mor llwyddiannus rhwng cenedlaethau, ac roeddwn i’n falch iawn o ymddygiad y merched drwy gydol y digwyddiad.”

CY