Gyrfa yn y gyfraith?

Heddiw cafodd myfyrwyr o flynyddoedd 10 i 13 fudd o fynychu cyflwyniad gyrfaoedd am y gyfraith gan Ms Alys Bratch, cyfreithiwr dan hyfforddiant yn Lanyon Bowdler. Ym marn y myfyrwyr roedd y sgwrs a’r cyflwyniad yn ysbrydoledig ac yn ddiddorol, ac yn rhoi gwell dealltwriaeth iddynt o’r llwybrau gyrfa a’r cyfleoedd sydd ar gael yn y maes hwn.

CY