Legally Blonde

Wythnos diwethaf, bu cast a chriw o 60 o fyfyrwyr yn perfformio’r sioe gerdd Legally Blonde Jr yn Theatr Colwyn. Gyda phawb ar eu traed yn cymeradwyo'r ddau berfformiad, roedd y cynhyrchiad yn llwyddiant ysgubol ym marn y cynulleidfaoedd. Arweiniwyd y cast anhygoel o dalentog gan Chloe Cartledge a gymerodd ran Elle, a dyfarnwyd gwobr Perfformiwr y Flwyddyn iddi fel cydnabyddiaeth o'i dawn eithriadol ar y llwyfan ac oddi arno. 

Bydd sioe gerdd 2023 yn cael ei chyhoeddi yn fuan! Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran. 

CY