Plant Mewn Angen

Mae staff a myfyrwyr wedi bod yn brysur iawn yn codi arian ar gyfer Plant Mewn Angen heddiw. Rydym wedi cael cystadleuaeth pobi, stondinau a gemau, golchi ceir, rafflau a digwyddiadau noddedig yn cael eu cynnal trwy gydol y dydd. Eleni rydym wedi codi dros £2685 ar gyfer Plant Mewn Angen!

Diolch enfawr i'n holl staff a myfyrwyr am eu hymdrechion gwych ac i gymuned ehangach yr ysgol am eich cefnogaeth barhaus!

CY