Y Ganolfan

Mae Ysgol Aberconwy wedi cael ei hadnewyddu a’i datblygu’n ddiweddar ar yr adeilad o flaen yr ysgol. Mae hwn bellach yn gartref i 'Y Ganolfan' ac yn amgylchedd modern sy'n cynnwys darpariaeth y Sir ar gyfer myfyrwyr ag ASD ac anawsterau niwroddatblygiadol yn ogystal â meysydd eraill.

Mae’r amgylchedd tawel a chyfforddus wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion plant ag anawsterau cymdeithasol, cyfathrebu, emosiynol neu ymddygiadol cymhleth, gan alluogi myfyrwyr i deimlo’n ddiogel a’u helpu i gyflawni eu llawn botensial tra yn Ysgol Aberconwy.

Ar hyn o bryd mae gan y Ganolfan bedwar prif ardal yn ogystal â chyfres o ofodau synhwyraidd. Mae wedi cael ei ehangu i gynnwys 6 ystafell ddosbarth yn ogystal â 5 pod synhwyraidd/datgywasgu sydd wedi'u dodrefnu â goleuadau synhwyraidd ac offer sy'n cynnwys cadeiriau sydd wedi'u pwysoli i helpu myfyrwyr i reoleiddio a'u galluogi i ddychwelyd yn llwyddiannus i wersi.

Mae gennym POD acwstig y gall plant ei ddefnyddio ar gyfer sesiynau mentora gyda'n staff profiadol a gofalgar. Gall myfyrwyr hefyd ei ddefnyddio fel man tawel i weithio tra'n aros yn yr ystafell ddosbarth. Yn ogystal â hyn, mae gennym gyfres o ystafelloedd ymyrraeth sy’n darparu’n benodol ar gyfer datblygu sgiliau allweddol megis llythrennedd a rhifedd, llythrennedd emosiynol ac anawsterau cyfathrebu cymdeithasol.

Mae’r Ganolfan bellach yn cynnig amgylchedd anogol sy’n cefnogi ein myfyrwyr mewn ffordd gyfannol ac yn cynnig amrywiaeth o ymyriadau i ddiwallu anghenion myfyrwyr a chefnogi eu hanawsterau. Rydym yn cynnig pecynnau pwrpasol, lle bo angen, gan weithio’n agos gyda staff ysgol, i gefnogi myfyrwyr fel eu bod yn gallu cael mynediad ac ymgolli mewn addysg brif ffrwd yn llwyddiannus. Ein nod yw sicrhau bod pob myfyriwr yn Ysgol Aberconwy yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn cyflawni neu’n rhagori ar eu llawn botensial.

Dywedodd Medwen Brookes, Pennaeth Cynorthwyol, “Mae ehangu’r ddarpariaeth hon wedi ein galluogi i gefnogi nifer fwy o fyfyrwyr mewn amgylchedd cynhwysol a chefnogol. Rydym eisoes wedi gweld gwahaniaeth amlwg mewn ymgysylltu o fewn y ddarpariaeth newydd a dim ond ychydig wythnosau sydd wedi bod! Rwy’n gyffrous iawn i weld sut bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar gynnydd a datblygiad y ddarpariaeth dros y misoedd nesaf.”

CY