Ffair Fêl

Ar Ddydd Mawrth 13eg Medi, bu rhai o fyfyrwyr blwyddyn 7 yn ymweld â’r Ffair Fêl yng Nghonwy lle buont yn astudio hanes a phwysigrwydd y ffair Siarter Frenhinol 700 oed fel rhan o’r cwricwlwm newydd. Yn ystod yr ymweliad fe wnaethant hefyd gwblhau arolwg, archwilio'r farchnad ac wrth gwrs, prynu mêl lleol hyfryd.

Wedi iddynt ddychwelyd i'r ysgol, yn ystod eu gwers Gymraeg, defnyddiwyd y 'y modd gorchmynnol' i ysgrifennu cyfarwyddiadau ar sut i wneud brechdan fêl flasus yn y Gymraeg, y bu'n rhaid iddynt wedyn eu dilyn. Cawsant lawer o hwyl, yn enwedig pan oedd rhai wedi anghofio cynnwys cyfarwyddiadau fel 'ewch i nol plat' ayyb!

CY