Llwyddiant Canlyniadau Safon Uwch

Fel Prifathrawon Ysgolion Uwchradd Conwy roeddem yn awyddus i gyd-ddathlu ymdrechion ein dysgwyr Blwyddyn 13 dros y ddwy flynedd diwethaf ar y diwrnod canlyniadau Safon Uwch hwn.

Ni allwn danamcangyfrif pa mor anodd y mae llwybr addysg wedi bod i’r garfan benodol hon ers cychwyn y Cyfnod Clo Cenedlaethol ym mis Mawrth 2020. Mae’r grŵp hwn o bobl ifanc wedi goresgyn adfyd a her o dan yr amgylchiadau anoddaf gan ddangos gwydnwch eithriadol mewn cyfnod digynsail. Maent hefyd wedi amlygu lefel uchel o aeddfedrwydd a fydd o ddefnydd mawr iddynt yn nghyfnod nesaf eu bywydau.

Rydym i gyd yn falch iawn o’r gwaith caled y mae ein dysgwyr wedi’i wneud yn eu hastudiaethau, ac rydym wrth ein bodd â’u cyflawniadau ac yn dymuno’r gorau iddynt ar gyfer y dyfodol yn y brifysgol neu fyd gwaith.

Hoffem hefyd ddiolch i’n staff ymroddedig am arwain ein dysgwyr drwy’r cyfnod cythryblus hwn, gan eu paratoi ar gyfer eu harholiadau Safon Uwch. Diolchwn i’n rhieni, cymunedau a llywodraethwyr am eu cefnogaeth i sicrhau cyflawniadau a llwyddiant ein holl fyfyrwyr.

Da iawn, blwyddyn 13, a phob dymuniad da ar gyfer eich llwyddiannau yn y dyfodol!

Ar ran Ysgol Aberconwy, hoffem hefyd ychwanegu ein llongyfarchiadau i nifer o fyfyrwyr ar eu perfformiadau eithriadol. Enillodd Isaac Dean 4 gradd A* ac mae ar fin astudio Bioleg ac Almaeneg ym Mhrifysgol Manceinion. Enillodd Gabriel Barnett 3 A* ac A. Cafwyd perfformiadau rhagorol eraill gan Eleanor McNab a enillodd 3 A* ac sydd wedi cael ei derbyn i astudio Ffiseg ym Mhrifysgol Caeredin.

Rydym yn hynod falch o’n holl fyfyrwyr ac rydym hefyd yn falch iawn o weld cymaint ohonynt yn sicrhau eu lle yn eu prifysgolion dewisol i astudio ystod eang o gyrsiau cyffrous. Mae Erin Hughes wedi cael ei derbyn i Brifysgol Manceinion i astudio Ffrangeg a Tsieinëeg; mae Edward Griffiths wedi sicrhau lle ym Mhrifysgol Caerdydd i astudio Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol a bydd Isabelle Cutts yn astudio Bioleg Bywyd Gwyllt Rhyngwladol sy'n cynnwys lleoliadau mewn lleoedd fel De Affrica a Mecsico ym Mhrifysgol De Cymru.

Llongyfarchodd y Pennaeth Ian Gerrard yr holl fyfyrwyr a'r staff ar eu canlyniadau a dymunodd y gorau iddynt ar gyfer eu dyfodol. Dywedodd, “Rwyf wrth fy modd gyda chyflawniadau ein myfyrwyr eleni ac mae'n galonogol gweld bod dewis mor eang ac amrywiol o gyrsiau yn cael eu dilyn gan ein pobl ifanc ledled y DU. Dymunwn yn dda iddynt ar gyfer y dyfodol ac edrychwn ymlaen at glywed am eu llwyddiant parhaus yn y blynyddoedd i ddod.”

CY