Gwirfoddolwr y Flwyddyn

Llongyfarchiadau i Madison ym mlwyddyn 10, a dderbyniodd wobr 'Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn' yn ddiweddar gan Gyngor Tref Bae Colwyn!

Mae hi wedi bod yn gwirfoddoli i Wasanaeth Ieuenctid Conwy am y 4 blynedd diwethaf, sydd wedi cynnwys mynychu grwpiau chwaraeon, cyfarfodydd a grwpiau her celf. Mae hi hefyd wedi mynychu galwadau zoom gyda’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.

Dywedodd Madison, “Pan gyflwynwyd fy ngwobr i mi, roeddwn yng nghwmni Chris Gledhill a enwebodd fi, fy mam a fy ffrind gorau Jess. Ar y dechrau, roeddwn i'n teimlo embaras, ond rydw i wedi dod i sylweddoli'n fuan ei fod yn anhygoel! Rydw i wir yn gwerthfawrogi’r enwebiadau a chael fy nghydnabod am fy ngwaith caled.”

CY