Gŵyl Ffilm Five Ways

Mae myfyrwyr yn nosbarth Astudiaethau Ffilm TGAU Blwyddyn 10 wedi bod yn gweithio gyda Steve Swindon o TAPE Community Film i gynllunio a chreu gŵyl ffilm sy'n gysylltiedig â’r pum ffordd at les (fel y nodwyd gan elusen Mind). Maent wedi paru pob un o’r ‘pum ffordd’ â ffilm y teimlwn sy’n cynrychioli’r maes llesiant hwnnw, fel a ganlyn:

Byddwch yn actif: Bend It Like Beckham (7pm, 8 Gorffennaf)

Cymerwch sylw: About Time (2pm, 9fed Gorffennaf)

Dysgwch: I, Daniel Blake (7pm, 9fed Gorffennaf)

Cysylltwch: Her (2pm, 10fed Gorffennaf)

Rhowch: Pride (7pm, 10fed Gorffennaf)

Bydd yr ŵyl ffilm yn cael ei chynnal yn stiwdios a sinema TAPE dros benwythnos 8fed i 10fed Gorffennaf ac mae’r digwyddiad AM DDIM. Ochr yn ochr â’r 5 ffilm y byddwn yn eu dangos, bydd digwyddiadau cymunedol yn cael eu cynnal gan gynnwys ymgyrch banc bwyd, addurno crysau-t, cicio o’r smotyn gyda chwaraewr o Glwb Pel-droed Bae Colwyn, a sgyrsiau gan y banc bwyd lleol ac elusen Mind. Rydym wedi bod yn hynod ffodus i sicrhau sesiwn Holi ac Ateb i’r myfyrwyr gyda Dave Johns (prif actor I, Daniel Blake) a Matthew Warchus (y ffilm Pride), sy’n rhoi o’u hamser am ddim i gymryd rhan yn y digwyddiad. 

Meddai Eimear Teasdale, myfyrwraig, “Mae bod yn rhan o’r tîm i greu’r Ŵyl Ffilm wedi bod yn brofiad mor anhygoel. O weld ein syniadau’n dod yn fyw i recordio ein podlediad ein hunain, mae’r cyfan wedi bod yn gymaint o hwyl. Rydw i wedi dysgu cymaint o sgiliau gwahanol o'r prosiect hwn ac rydw i mor ddiolchgar i fod yn rhan ohono. Dwi’n methu aros i weld y cyfan yn dod yn fyw!”

Mae hwn wedi bod yn gyfle dysgu gwych i’r myfyrwyr, sydd wedi cymryd cyfrifoldeb am bob rhan o’r broses gynllunio, gan gynnwys ysgrifennu a recordio hysbyseb radio a phodlediad am y digwyddiad! 

Meddai Caitlin Bottomley, myfyrwraig, “Rydw i wir wedi mwynhau gweithio gyda phobl yn fy nosbarth a chlywed syniadau creadigol pawb. Rwy’n meddwl bod y profiad hwn yn un anhygoel gan ei fod yn rhywbeth newydd a bydd yn hwb enfawr i'm sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu, sydd ers COVID wedi bod braidd yn llychlyd, rwy’n gyffrous iawn ac mae gweld ein logo ar ddillad ac yn cael ei ddefnyddio yn eithaf swreal. Dwi'n methu aros am Orffennaf 8fed!!!”

Dilynwch y ddolen isod i archebu eich tocynnau, neu chwiliwch amdanynt ar Facebook ac Instagram yng Ngŵyl Ffilm Five Ways i gael y newyddion diweddaraf am y digwyddiad: https://www.eventbrite.co.uk/e/the-five-ways-film-festival-bend-it-like-beckham-20th-anniversary-tickets-352474068427

CY