Llongyfarchiadau i staff yr Adran Ddylunio a Thechnoleg, a wobrwywyd yn ddiweddar gyda gwobr Gymraeg Rhan 1 Croesi'r Bont i Wobr Efydd. Maen nhw'n ymuno â’r Adran Gelf, yr Adran Gymraeg a'r Copa (y llyfrgell) wrth gyrraedd y garreg filltir hon.
Mae gan Ysgol Aberconwy dair gwobr (Efydd, Arian ac Aur) i herio aelodau o staff i ddefnyddio'u Cymraeg yn eu gwaith bob dydd ac i annog disgyblion i ddefnyddio'u sgiliau Cymraeg y tu allab i'w gwersi Cymraeg.