Murlun Y Copa

Mae'r llyfrgell wedi cael enw newydd, sef 'Y Copa', sy'n golygu The Summit. Y syniad y tu ôl i’r enw yw y gall dysgu darllen fod yn her ac yn waith caled, ond bydd yn mynd â chi ar daith hudolus ac os dyfalbarhewch, gallwch gyrraedd y brig a mwynhau’r holl ryfeddodau y gall llyfrau eu cynnig, gan archwilio bydoedd, agor meddyliau ac ehangu dychymyg.  

I ddathlu'r enw newydd ac i annog myfyrwyr i ddod i'r Copa i bori trwy lyfrau a dod o hyd i stori, mae'r artist lleol Ffion Roberts-Drakley wedi creu murlun ar gyfer wal y llyfrgell. Mae’r paentiad yn darlunio dringwr yn cyrraedd copa ac yn cynnwys rhigwm a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer Y Copa gan Mrs Luned Davies Parry, (athrawes Gymraeg a Chydlynydd Dwyieithrwydd), sy’n darllen:

Tyrd ar daith hudolus i'r Copa, 

I bori drwy stori a chwilota, 

I ryfeddu at y trysorau rhwng y cloriau 

Ac i agor dy feddwl i'r rhyfeddodau. 

Daeth yr artist Ffion Roberts-Drakley i'r ysgol yn ddiweddar i gyflwyno murlun newydd Y Copa i Mrs Stella Edwards, Mentor Llythrennedd a Llyfrgellydd yr Ysgol.

CY