Cefnogaeth ar gyfer Arholiadau

Gwyddom y gall arholiadau fod yn amser llawn straen ac yn aml mae’n anodd gwybod beth yw’r ffordd orau o gefnogi plant yn academaidd ac yn emosiynol, felly ar ddydd Gwener 25 Mawrth cynhaliom ddiwrnod adolygu i fyfyrwyr ym Mlwyddyn 11 gyda sesiwn cymorth a gwybodaeth ar ôl ysgol ar gyfer eu rhieni. 

Cyflwynwyd y gweithdai gan y cwmni Learning Performance, sydd â hanes profedig o ysgogi myfyrwyr i lwyddo. Cyflwynodd eu hyfforddwyr arbenigol raglen gwbl ryngweithiol a ddysgodd dechnegau a sgiliau newydd i fyfyrwyr i'w helpu gyda'u hadolygiad a'u paratoadau ar gyfer arholiadau sydd i ddod.

Roedd y digwyddiadau yn llwyddiant mawr a chafodd y myfyrwyr a'u rhieni hwyl, gan dderbyn awgrymiadau a chyngor ymarferol defnyddiol iawn ar yr un pryd.

Dywedodd y Dirprwy Bennaeth a threfnydd y digwyddiad, Mrs Gaynor Murphy, “Rydym wedi cael cymaint o adborth cadarnhaol gan fyfyrwyr ac roedd yn wych croesawu rhieni yn ôl i'r ysgol”. 

CY