Codi arian ar gyfer yr Wcráin

“DIOLCH” enfawr i bawb sydd wedi cyfrannu at ein Apêl Wcráin. Mae ein myfyrwyr wedi bod yn gweithio'n galed yn trefnu digwyddiadau i godi arian i bobl yr Wcrain. Rydym wedi codi bron i £2000 hyd yn hyn trwy werthu cynnyrch pobi a bathodynnau, a chynnal rafflau a diwrnod dim gwisg ysgol ar thema melyn a glas. 

Mae yna nifer o ddigwyddiadau noddi yn mynd i gael eu cynnal rhwng nawr a diwedd y tymor. Mae gennym grŵp o fyfyrwyr blwyddyn 7 sy’n mynd i gerdded i fyny’r Wyddfa ac mae nifer o’n myfyrwyr blwyddyn 13 wedi gwirfoddoli i geisio beicio hyd yr Wcráin mewn un diwrnod, sy’n golygu y bydd yn rhaid iddynt feicio tua 30 milltir yr un!

Byddwn yn parhau i godi arian drwy'r haf hefyd a bydd yr holl arian a godir yn cael ei roi i Apêl Wcráin UNICEF.

Rydym yn ddiolchgar am eich holl gefnogaeth hyd yma ac yn gobeithio y byddwch yn parhau i gefnogi ein hapêl.
Gall rhieni barhau i gyfrannu gan ddefnyddio Ap Gateway yr ysgol, os hoffent wneud hynny.

CY