Mae Luke yn Bocsio dros Gymru

Hoffem longyfarch Luke ym mlwyddyn 11 ar gael ei ddewis i dîm Bocsio Cenedlaethol Cymru unwaith eto! 

Mae wedi bod yn aelod o’r garfan genedlaethol ers 2019 ac yn teithio i Gaerdydd bob yn ail benwythnos i hyfforddi. Yn ddiweddar bu’n cystadlu yn y categori 71+kg yn erbyn Pencampwr Cenedlaethol Gwyddelig 5 gwaith, yn y Stadiwm Cenedlaethol yn Nulyn, y digwyddiad rhyngwladol cyntaf i’w gynnal yn y stadiwm ers 2 flynedd, gyda’r digwyddiad yn gorffen mewn gêm gyfartal rhwng Iwerddon a Chymru. 

Mae Luke, sydd wedi bod yn bocsio er pan oedd yn 8 oed fel aelod o Glwb Bocsio Amatur Llandudno, wedi ennill teitlau cenedlaethol a medalau aur mewn twrnameintiau tramor yn y gorffennol. Bu hefyd yn Bencampwr Cenedlaethol ar sawl achlysur ac mae wedi bocsio ym Mhencampwriaethau Prydain gan ennill medal arian. 

Rydym yn falch iawn o Luke a'i gyflawniadau gwych! Dymunwn y gorau iddo ef a gweddill tîm Cymru gyda’u gemau i ddod. 

CY