Celf yn Oriel Academi Frenhinol Cambria

Bu myfyrwyr Celf o Flynyddoedd 9, 10, 12 a 13 yn ymweld ag Oriel Academi Frenhinol Cambria yng Nghonwy, gan gael rhywfaint o ysbrydoliaeth o'r arddangosfa ddiweddar o'r enw 'Art of Perseverance'. Roedd yr arddangosfa hon yn dangos sut mae mae chwe artist wedi defnyddio celf i ymdopi.

Edrychodd y myfyrwyr ar weithiau celf ysbrydoledig gan yr artistiaid talentog Jan Gardner, Iwan Gwyn Parry, Peter Holloway, Mary Lloyd Jones, Tim Pugh a Gilly Thomas. Er bod pob un o'r artistiaid hyn wedi wynebu gwahanol heriau, maent oll yn defnyddio celf i ddod trwy gyfnodau anodd. Dyfalbarhad yw celf, iddyn nhw.

Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn arbennig o heriol i'r diwydiannau celfyddydol a chreadigol, ond er gwaethaf hyn, mae un o'n myfyrwyr wedi cael cyfle gwych i arddangos ei gwaith celf yn yr oriel. Ar hyn o bryd mae casgliad Lucy Birtwistle, myfyriwr chweched dosbarth, o'i hoff ddarnau a grëwyd yn ystod y cyfnod clo, yn cael ei arddangos yng nghabinet “Art in the Cupboard” ym mhwll grisiau yr oriel is i bawb ei weld. Cyflawniad rhagorol, da iawn Lucy!

CY