Digwyddiad Mapio Nodau SEREN

Cafodd ein myfyrwyr Seren blwyddyn 9 gyfle i fynychu sesiwn SEREN gyntaf y flwyddyn a oedd yn edrych ar 'Mapio Nodau'.

Cwblhaodd myfyrwyr y sesiwn ar-lein, lle buont yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau ysgrifenedig a chorfforol gan ganolbwyntio ar eu nodau presennol ac yn y dyfodol.

Defnyddiodd myfyrwyr eu cyfnodolion myfyriol Seren ar ddechrau a diwedd y sesiwn. O ganlyniad, roedd ganddynt feddylfryd addas ar gyfer y sesiwn, rhywbeth a'u galluogodd i fyfyrio ar yr hyn roeddent wedi'i ddysgu a sut y byddent yn defnyddio eu sgiliau newydd yn y dyfodol.

Roedd y myfyrwyr a gymerodd ran yn y sesiwn hon yn ei chael hi'n addysgiadol iawn ac yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn y digwyddiad SEREN nesaf.

CY