Arddangosfa Celfyddydau Perfformio

Cynhaliodd yr adran Celfyddydau Perfformio eu sioe gyntaf ddydd Mercher 13eg Hydref. Hwn oedd y tro cyntaf i fyfyrwyr Ffilm, Cyfryngau a'r Celfyddydau Perfformio blynyddoedd 10 i 13 gael cyfle i gynnal perfformiad ers i Covid-19 daro. Mwynhawyd y digwyddiad gan gynulleidfa o staff a myfyrwyr ac roedd mwy na 100 o fyfyrwyr yn cymryd rhan.

Dywedodd y Pennaeth Celfyddydau Perfformio, Ms Nikki Wilson, “Roedd y sioe wir yn dangos faint o dalent sydd gennym yn Ysgol Aberconwy ac rydym nawr yn edrych ymlaen at berfformiad ‘A Night at the Musicals’ ar 24ain a 25ain Tachwedd.”

CY