{"id":9558,"date":"2025-04-30T13:53:00","date_gmt":"2025-04-30T12:53:00","guid":{"rendered":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/?p=9558"},"modified":"2025-05-08T18:06:57","modified_gmt":"2025-05-08T17:06:57","slug":"fundraising-for-borneo","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/2025\/04\/30\/fundraising-for-borneo\/","title":{"rendered":"Codi arian ar gyfer Borneo"},"content":{"rendered":"<p>Ym mis Gorffennaf 2024, cychwynnodd gr\u0175p o fyfyrwyr anturus ar daith fythgofiadwy i Borneo, lle cawsant brofiadau amhrisiadwy, ac yn ogystal, effaith sylweddol ar y cymunedau lleol y gwnaethant ymweld \u00e2 nhw \u2013 <a href=\"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/2024\/09\/16\/exploring-borneo-a-life-changing-adventure\/\">darllenwch bopeth am eu hanturiaethau cyffrous yma.<\/a>Ar \u00f4l gweld rhai o'r heriau a wynebwyd gan y cymunedau hynny, roedd y gr\u0175p eisiau gwneud rhywbeth i helpu a phenderfynwyd codi arian ar eu cyfer ar \u00f4l iddynt ddychwelyd.  <\/p>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l meddwl am syniadau i godi arian, dewiswyd 10 Ebrill fel y dyddiad ar gyfer gweithredu! Penderfynasant ar gymysgedd creadigol o ddigwyddiadau a fyddai'n dod \u00e2 chymuned yr ysgol ynghyd. Trefnasant ddiwrnod Gwisgo Eich Dillad Eich Hun, gwerthiant cacennau ac amryw o weithgareddau hwyliog eraill, yn cynnwys ciciau o'r smotyn a \u201cPei a myfyriwr chweched dosbarth\u201d. Aeth y rhai a fynychodd y daith ddiwethaf i Borneo ati hefyd i gyflawni'r her gorfforol o ddringo grisiau'r ysgol dros 300 o weithiau, uchder sy'n cyfateb i uchder Mynydd Kinabalu (4095m), am arian nawdd. <\/p>\n\n\n\n<p>Yn gyfan gwbl maen nhw wedi codi bron \u00a31100 sy'n swm enfawr o arian yn y rhanbarth! Bydd yr arian a godir yn cael ei gyfeirio at ddau achos hynod deilwng a fydd o fudd mawr i gymunedau Borneo. <\/p>\n\n\n\n<p>Bydd cyfran o'r arian yn mynd i Warchodfa Orangwtan Sepilok, sefydliad hanfodol sy'n ymroi i warchod orangwtaniaid, un o'r rhywogaethau sydd fwyaf mewn perygl yn y byd. Mae'r warchodfa hon yn chwarae rhan hanfodol nid yn unig wrth ddarparu gofal i'r creaduriaid godidog hyn, ond hefyd wrth addysgu'r cyhoedd am yr angen i warchod bywyd gwyllt. Bydd yr arian yn cynorthwyo gyda bwydo a gwarchod yr orangwtaniaid, gan sicrhau eu bod yn goroesi a bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu eu hedmygu.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal, mae'r myfyrwyr wedi dewis cefnogi pentref Kiau trwy ddarparu offer hanfodol i'w Clinig Iechyd a fydd yn helpu i wella mynediad at ofal iechyd i'r boblogaeth leol. Mae llawer o drigolion yn yr ardal anghysbell hon yn wynebu heriau sylweddol wrth dderbyn triniaeth feddygol, gan orfod teithio am dros awr yn aml i ddod o hyd i ofal priodol. Gyda'r gefnogaeth ariannol o'r gweithgareddau codi arian, bydd y clinig mewn gwell sefyllfa i wasanaethu anghenion ei gleifion, gan wneud gwahaniaeth pendant yn eu bywydau. Bydd yr arian hefyd yn cael ei ddefnyddio i helpu i atgyweirio cae p\u00eal-droed y pentref, trwy gyfrannu at adfer y cyfleuster hwn, mae'r myfyrwyr yn helpu i greu amgylchedd diogel a difyr i'r ieuenctid lleol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#039;r myfyrwyr hyn wedi gosod esiampl ddisglair o sut y gall ymdrech ar y cyd arwain at newid ystyrlon. Mae eu hymrwymiad i wneud y byd yn lle gwell yn glodwiw, gan ein hatgoffa ni i gyd o b\u0175er tosturi a phwysigrwydd rhoi yn \u00f4l. Edrychwn ymlaen at rannu lluniau a straeon o&#039;r daith ysgol nesaf i Borneo, i arddangos y newidiadau cadarnhaol a wnaed yn bosibl trwy eu gwaith caled a&#039;u hymroddiad.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-gallery has-nested-images columns-default is-cropped wp-block-gallery-1 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"768\" height=\"1024\" data-id=\"9608\" src=\"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3264-768x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-9608\" srcset=\"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3264-768x1024.jpg 768w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3264-225x300.jpg 225w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3264-1152x1536.jpg 1152w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3264-1536x2048.jpg 1536w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3264-9x12.jpg 9w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3264-scaled.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 768px) 100vw, 768px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"768\" height=\"1024\" data-id=\"9609\" src=\"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3265-768x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-9609\" srcset=\"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3265-768x1024.jpg 768w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3265-225x300.jpg 225w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3265-1152x1536.jpg 1152w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3265-1536x2048.jpg 1536w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3265-9x12.jpg 9w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3265-scaled.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 768px) 100vw, 768px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" data-id=\"9610\" src=\"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3266-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-9610\" srcset=\"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3266-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3266-300x225.jpg 300w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3266-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3266-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3266-2048x1536.jpg 2048w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3266-16x12.jpg 16w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" data-id=\"9611\" src=\"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3267-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-9611\" srcset=\"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3267-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3267-300x225.jpg 300w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3267-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3267-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3267-2048x1536.jpg 2048w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3267-16x12.jpg 16w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" data-id=\"9612\" src=\"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3268-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-9612\" srcset=\"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3268-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3268-300x225.jpg 300w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3268-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3268-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3268-2048x1536.jpg 2048w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/IMG_3268-16x12.jpg 16w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/figure>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae gr\u0175p o fyfyrwyr wedi codi bron i \u00a31100 ar gyfer 2 gymuned werth chweil yn Borneo \u2013 swm enfawr o arian yn y rhanbarth \u2013 ar \u00f4l eu taith yno ym mis Gorffennaf\u2026 <\/p>","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-9558","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorised"],"acf":[],"featured_image_src":null,"author_info":{"display_name":"Sarah Williams","author_link":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/author\/sarahwilliams\/"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9558","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9558"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9558\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9617,"href":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9558\/revisions\/9617"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9558"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9558"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9558"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}