{"id":8184,"date":"2024-07-05T11:00:00","date_gmt":"2024-07-05T10:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/?p=8184"},"modified":"2024-07-17T15:48:17","modified_gmt":"2024-07-17T14:48:17","slug":"showcasing-welsh","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/2024\/07\/05\/showcasing-welsh\/","title":{"rendered":"Arddangos y Gymraeg"},"content":{"rendered":"<p>Ar Ddydd Mawrth, Mehefin 25ain agorwyd ein drysau ar gyfer Diwrnod Agored Cymraeg arbennig i ddathlu ac arddangos y gwaith rydym wedi\u2019i wneud i wella a hyrwyddo\u2019r ethos Gymraeg a\u2019r Gymraeg yn yr ysgol dros y blynyddoedd diwethaf. Yn ystod y digwyddiad cyflwynwyd gwobr Arian Siarter Iaith Gymraeg Campws Uwchradd i Ysgol Aberconwy gan Meinir Thomson a Heledd Morgan o Lywodraeth Cymru, sy\u2019n golygu mai ni yw\u2019r ysgol uwchradd gyntaf yng Ngogledd Cymru gyfan i ennill y wobr!<\/p>\n\n\n\n<p>Llongyfarchodd Aelod Cabinet Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, y Cynghorydd Julie Fallon, yr ysgol ar ei Gwobr.  Dywedodd \u201cRwyf wrth fy modd bod Ysgol Aberconwy wedi ennill y wobr hon. Mae\u2019n adlewyrchiad o waith caled pawb yn yr ysgol i helpu pobl ifanc i elwa drwy gynyddu eu defnydd o\u2019r Gymraeg.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Lansiwyd y Wobr Siarter Iaith Gymraeg Campws Uwchradd newydd yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn eleni hefyd, lle cyhoeddwyd hefyd mai ein myfyrwraig ym mlwyddyn 12, Angharad Brookes, oedd enillydd cystadleuaeth genedlaethol dylunio logo Siarter Iaith Uwchradd! <em>(<a href=\"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/2024\/06\/05\/welsh-logo-competition-winner\/\">Gweler yr erthygl yma<\/a>)<\/em>.  Mae\u2019r wobr newydd hon yn cydnabod yr ymdrechion a\u2019r ffyrdd y gall ysgolion uwchradd ysbrydoli ac annog dysgwyr i ddefnyddio\u2019r Gymraeg yn yr ysgol ac ym mhob agwedd arall ar eu bywydau.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd Mrs Luned Davies Parry, Dirprwy Bennaeth y Gymraeg a chydlynydd y Siarter Iaith Gymraeg Campws Uwchradd \u201cMae wedi bod yn fraint cael peilota y Wobr Siarter Iaith Gymraeg Campws Uwchradd newydd i ysgolion Conwy yn ogystal ag ysgolion uwchradd eraill Gogledd Cymru. Agorwyd ein drysau i\u2019n hysgolion uwchradd cyfagos, i\u2019n hysgolion uwchradd sy\u2019n bellach i ffwrdd, i\u2019n hysgolion cynradd clwstwr ac i asiantaethau allanol fel yr Urdd, Menter Iaith, Mudiad Meithrin i enwi dim ond rhai. Rydym wedi arddangos popeth rydyn ni wedi\u2019i wneud i godi proffil y Gymraeg yn Ysgol Aberconwy ac wedi cynnal taith dywys o amgylch yr ysgol!\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Ychwanegodd Cydlynydd Cymreictod a Dwyieithrwydd Ysgol Aberconwy, Elen M\u00f4n Williams, \u201cHoffem ddiolch i\u2019r holl staff a myfyrwyr, yn enwedig \u2018Criw Cymraeg\u2019 am eu holl ymdrechion, gyda\u2019u cefnogaeth a\u2019u hanogaeth mae\u2019r Gymraeg bellach yn ffynnu yn yr ysgol.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mynychodd Pennaeth Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Dr Lowri Brown y digwyddiad a dywedodd, \u201cFe wnes i fwynhau cwrdd \u00e2\u2019r dysgwyr a\u2019r staff yn fawr ac fe\u2019m hysbrydolwyd yn fawr gan eu brwdfrydedd a\u2019u cyfraniadau gwerthfawr tuag at wreiddio\u2019r Gymraeg ar draws yr ysgol. Roedd y sesiynau\u2019n addysgiadol iawn ac wedi\u2019u strwythuro\u2019n dda ac roedd yn bleser mawr bod ymhlith dysgwyr mor gwrtais ac egn\u00efol a oedd yn awyddus iawn i rannu eu gwaith ac a ddangosodd eu hangerdd dros yr iaith gyda chymaint o hyder.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd Dr Elin Angharad Davies, Tiwtor Drefnydd Gweithle ym Mhrifysgol Bangor, \u201cRoedd yn wych gweld yr hyn yr ydych yn ei wneud yn Aberconwy a\u2019r profiadau dwyieithog a roddir i\u2019r plant. Roeddwn wrth fy modd yn clywed Cymraeg a Saesneg ochr yn ochr yn y wers Saesneg, yn normaleiddio a meithrin ystafell ddosbarth ddwyieithog. Rwyf i ac Eryl wedi ymweld \u00e2 llawer o ysgolion yn ddiweddar ac fe\u2019n syfrdanwyd gan faint o Gymraeg oedd ar eich waliau, yn y coridor a pha mor angerddol yw eich staff am y Gymraeg.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan Ysgol Aberconwy fentrau fel \u2018Gwobrau Iaith Adrannol\u2019, cynllun pwrpasol sy\u2019n darparu fframwaith clir i athrawon hybu a chynyddu\u2019r defnydd o\u2019r Gymraeg o ddydd i ddydd gyda dysgwyr. Rydym hefyd yn cynnal Eisteddfod Ysgol flynyddol ym mis Mawrth bob blwyddyn a gall dysgwyr o bob oed gyfarfod amser cinio yn \u2018Y Caban\u2019, ystafell liwgar a modern unigryw, i gymryd rhan mewn gweithgareddau Cymraeg y tu allan i\u2019r dosbarth.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd Cynghorydd Sir Conwy a Phencampwraig y Gymraeg Gwennol Ellis, \u201cYn ystod ein taith o gwmpas yr Ysgol, roedd yn amlwg bod parch gwirioneddol at y Gymraeg \u2013 yn y dosbarthiadau a\u2019r coridorau ac ar yr hysbysfyrddau unigryw o ansawdd uchel, sy'n werth eu gweld. Roeddwn wrth fy modd gyda'r enwau a ddewiswyd ar gyfer y gwahanol leoliadau o fewn a thu allan i'r Ysgol. Wrth gerdded o gwmpas yr adeilad, cefais fy nharo gan ba mor bosibl fyddai trosglwyddo\u2019r hyn sy\u2019n digwydd yn Ysgol Aberconwy i ysgolion a sefydliadau eraill Conwy gan gynnwys y Cyngor Sir, gyda\u2019r ewyllys cywir.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd Ian Gerrard, Pennaeth, \u201cRydym yn falch iawn o\u2019r wobr hon, sy\u2019n adeiladu ar y wobr Efydd a enillwyd gennym ym mis Medi 2023. Mae\u2019n dyst i waith caled a brwdfrydedd disgyblion wrth gynyddu eu defnydd o\u2019r Gymraeg o ddydd i ddydd. Dydd. Rydyn ni nawr yn rhoi cynlluniau ar waith i weithio tuag at y Wobr Aur!\u201d<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1023\" height=\"576\" src=\"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/thumbnail_image0.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-8250\" srcset=\"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/thumbnail_image0.jpg 1023w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/thumbnail_image0-300x169.jpg 300w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/thumbnail_image0-768x432.jpg 768w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/thumbnail_image0-18x10.jpg 18w\" sizes=\"auto, (max-width: 1023px) 100vw, 1023px\" \/><\/figure>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ar Ddydd Mawrth, Mehefin 25ain cynhaliwyd Diwrnod Agored Cymraeg arbennig i ddathlu ac arddangos y gwaith rydym wedi\u2019i wneud i wella a hyrwyddo\u2019r ethos Gymraeg a\u2019r Gymraeg yn yr ysgol\u2026<\/p>","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-8184","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorised"],"acf":[],"featured_image_src":null,"author_info":{"display_name":"Sarah Williams","author_link":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/author\/sarahwilliams\/"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8184","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8184"}],"version-history":[{"count":20,"href":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8184\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8402,"href":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8184\/revisions\/8402"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8184"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8184"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8184"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}