{"id":4070,"date":"2022-08-18T10:20:33","date_gmt":"2022-08-18T09:20:33","guid":{"rendered":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/?p=4070"},"modified":"2022-12-13T11:19:50","modified_gmt":"2022-12-13T11:19:50","slug":"a-level-results-success","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/2022\/08\/18\/a-level-results-success\/","title":{"rendered":"Llwyddiant Canlyniadau Safon Uwch"},"content":{"rendered":"<p>Fel Prifathrawon Ysgolion Uwchradd Conwy roeddem yn awyddus i gyd-ddathlu ymdrechion ein dysgwyr Blwyddyn 13 dros y ddwy flynedd diwethaf ar y diwrnod canlyniadau Safon Uwch hwn.<\/p>\n\n\n\n<p>Ni allwn danamcangyfrif pa mor anodd y mae llwybr addysg wedi bod i\u2019r garfan benodol hon ers cychwyn y Cyfnod Clo Cenedlaethol ym mis Mawrth 2020. Mae\u2019r gr\u0175p hwn o bobl ifanc wedi goresgyn adfyd a her o dan yr amgylchiadau anoddaf gan ddangos gwydnwch eithriadol mewn cyfnod digynsail. Maent hefyd wedi amlygu lefel uchel o aeddfedrwydd a fydd o ddefnydd mawr iddynt yn nghyfnod nesaf eu bywydau.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym i gyd yn falch iawn o\u2019r gwaith caled y mae ein dysgwyr wedi\u2019i wneud yn eu hastudiaethau, ac rydym wrth ein bodd \u00e2\u2019u cyflawniadau ac yn dymuno\u2019r gorau iddynt ar gyfer y dyfodol yn y brifysgol neu fyd gwaith.<\/p>\n\n\n\n<p>Hoffem hefyd ddiolch i\u2019n staff ymroddedig am arwain ein dysgwyr drwy\u2019r cyfnod cythryblus hwn, gan eu paratoi ar gyfer eu harholiadau Safon Uwch. Diolchwn i\u2019n rhieni, cymunedau a llywodraethwyr am eu cefnogaeth i sicrhau cyflawniadau a llwyddiant ein holl fyfyrwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Da iawn, blwyddyn 13, a phob dymuniad da ar gyfer eich llwyddiannau yn y dyfodol!<\/p>\n\n\n\n<p>Ar ran Ysgol Aberconwy, hoffem hefyd ychwanegu ein llongyfarchiadau i nifer o fyfyrwyr ar eu perfformiadau eithriadol. Enillodd Isaac Dean 4 gradd A* ac mae ar fin astudio Bioleg ac Almaeneg ym Mhrifysgol Manceinion. Enillodd Gabriel Barnett 3 A* ac A. Cafwyd perfformiadau rhagorol eraill gan Eleanor McNab a enillodd 3 A* ac sydd wedi cael ei derbyn i astudio Ffiseg ym Mhrifysgol Caeredin.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym yn hynod falch o\u2019n holl fyfyrwyr ac rydym hefyd yn falch iawn o weld cymaint ohonynt yn sicrhau eu lle yn eu prifysgolion dewisol i astudio ystod eang o gyrsiau cyffrous. Mae Erin Hughes wedi cael ei derbyn i Brifysgol Manceinion i astudio Ffrangeg a Tsiein\u00ebeg; mae Edward Griffiths wedi sicrhau lle ym Mhrifysgol Caerdydd i astudio Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol a bydd Isabelle Cutts yn astudio Bioleg Bywyd Gwyllt Rhyngwladol sy'n cynnwys lleoliadau mewn lleoedd fel De Affrica a Mecsico ym Mhrifysgol De Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Llongyfarchodd y Pennaeth Ian Gerrard yr holl fyfyrwyr a'r staff ar eu canlyniadau a dymunodd y gorau iddynt ar gyfer eu dyfodol. Dywedodd, \u201cRwyf wrth fy modd gyda chyflawniadau ein myfyrwyr eleni ac mae'n galonogol gweld bod dewis mor eang ac amrywiol o gyrsiau yn cael eu dilyn gan ein pobl ifanc ledled y DU. Dymunwn yn dda iddynt ar gyfer y dyfodol ac edrychwn ymlaen at glywed am eu llwyddiant parhaus yn y blynyddoedd i ddod.\u201d<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"597\" src=\"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Group-2-1024x597.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4072\" srcset=\"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Group-2-1024x597.jpg 1024w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Group-2-300x175.jpg 300w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Group-2-768x448.jpg 768w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Group-2-1536x895.jpg 1536w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Group-2-2048x1194.jpg 2048w, https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Group-2-18x10.jpg 18w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Fel Prifathrawon yr Ysgolion Uwchradd yng Nghonwy roeddem am ddathlu ar y cyd\u2026<\/p>","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-4070","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorised"],"acf":[],"featured_image_src":null,"author_info":{"display_name":"Sarah Williams","author_link":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/author\/sarahwilliams\/"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4070","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4070"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4070\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5010,"href":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4070\/revisions\/5010"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4070"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4070"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.aberconwy.conwy.sch.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4070"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}