Ysgol Aberconwy yn Dathlu Llwyddiant Arholiadau

Bu dathliadau mawr yn Ysgol Aberconwy y bore yma wrth i fyfyrwyr unwaith eto ddathlu blwyddyn arall o lwyddiant yn eu harholiadau TGAU. Gwelwyd perfformiadau eithriadol ar draws ystod eang o bynciau academaidd a galwedigaethol, gyda llawer o'r myfyrwyr yn llwyddo i sicrhau graddau uwch.

Dyma rai o'r perfformiadau nodedig:

Abby Cattell (7 A* a 5 A)
Shania Owen (7 A* a 5 A)
Angharad Brookes (5 A* a 4 A)
Abbey Lee (4 A* a 7 A)
Artur Kumpanenko (5 A* ar draws Gwyddoniaeth a Mathemateg)

Dywedodd y prifathro, Ian Gerrard, ei fod wrth ei fodd gyda llwyddiant parhaus yr ysgol. Ychwanegodd, “Mae’r canlyniadau hyn yn gyflawniad gwych ac yn adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad ein myfyrwyr, rhieni a staff. Rwy’n falch unwaith eto ein bod gyda’n gilydd wedi sicrhau bod ein holl fyfyrwyr yn gallu ymfalchïo yn yr hyn a wnaethant.”

Mae'r ysgol yn edrych ymlaen at weld y niferoedd uchaf erioed o fyfyrwyr yn dychwelyd i barhau â'u haddysg yn chweched dosbarth llewyrchus Ysgol Aberconwy ym mis Medi. Bydd myfyrwyr eraill yn mynd i Golegau Addysg Bellach lleol; prentisiaethau a chyflogaeth.

Llongyfarchodd Gaynor Murphy, y Dirprwy Bennaeth, y myfyrwyr a'r staff gan ychwanegu “Rydym wrth ein bodd gyda chyflawniadau rhagorol ein myfyrwyr. Dymunwn yn dda iddynt ar gyfer eu camau nesaf mewn addysg a chyflogaeth ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chynifer ohonynt ym mis Medi.”

CY