| Cyhoeddir Adroddiad Estyn 2012 |
|
|
Adroddir gan Estyn fod Ysgol Aberconwy yn ysgol dda oherwydd bod:
Mae’r rhagolygon ar gyfer gwelliant yn dda oherwydd bod:
Safonau"Yng nghyfnod allweddol 3, mae perfformiad y disgyblion yn dda." "Mae perfformiad disgyblion hefyd yn dda yng nghyfnod allweddol 4. Yn 2011, roedd perfformiad yn yr holl o’r prif ddangosyddion yn ogystal ag ym mhob un o’r pynciau craidd, yn uwch na’r cyfartaledd." "Dros y tair blynedd diwethaf, mae cyrhaeddiad disgyblion ôl-16 yn adlewyrchu tueddiad parhaus tuag at i fyny." Lles a Chefnogaeth"Mae bron yr holl ddisgyblion yn datgan eu bod yn teimlo’n ddiogel yn yr ysgol o ganlyniad i’r cymorth personol da iawn a dderbyniant." "Mae strategaethau cefnogi rhagorol yn darparu arweiniad a mentora personol da iawn. Mae’r cryfderau hyn yn cyfrannu’n arwyddocaol tuag at wella cyflawniad, hyder a pherthnasau." Profiad Dysgu"O Flwyddyn 9 ymlaen, diwellir anghenion y dysgwyr mewn modd arloesol iawn. Ynghyd ag astudio’r pynciau craidd, mae’r holl ddisgyblion yn astudio ac yn cyflawni dau gwrs TGAU ym mhob un o flynyddoedd 9, 10 ac 11. Mae hyn yn llwyddo ymrwymo, herio ac ysgogi disgyblion i gyflawni’n dda." Yr Amgylchedd Dysgu"Mae ethos yr ysgol yn un o gymuned gynhwysol a gofalgar. Ceir ymroddiad cryf tuag at gynnig cyfartaledd cyfle a mynediad i holl agweddau o fywyd ysgol waeth beth yr anabledd, hil neu ryw." "Mae perthnasau’n dda iawn a chânt eu nodweddu gan barch y naill at y llall." |


Mae adroddiad arolygiad Estyn ym mis Ebrill wedi ei gyhoeddi.