Little Shop of Horrors

Perfformiodd chwe deg o fyfyrwyr, yn cynrychioli pob grŵp blwyddyn, yn Theatr Colwyn, Bae Colwyn ar ddydd Mercher 29 a dydd Iau 30 Tachwedd, yn y sioe gerdd Little Shop of Horrors. Gyda phob tocyn wedi'u gwerthu, cafodd y myfyrwyr gyfle i ddisgleirio mewn perfformiad yr oeddent wedi bod yn paratoi ar ei gyfer ers dim ond 10 wythnos academaidd.

Safodd y gynulleidfa gyfan ar eu traed i gymeradwyo'r actorion, y band byw a'r criw a wnaeth gymaint o argraff arnynt!  

Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran! Bydd enw sioe gerdd y flwyddyn nesaf yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth.

CY